Ymchwil newydd y rhai sy’n rhoi gofal - “Gall y straen fod yn annioddefol, ond mae'r amseroedd da fel dod o hyd i aur.”

Autism Caregiver Research - Dr Deborah Lancastle



Mae ymchwilnewydd gan Brifysgol De Cymru (PDC) yn ymchwilio i weld a allai’r rhai sy’n rhoi gofal i’r rhai sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) hybu eu lles eu hunain gydag ymyriad i'w helpu i ymdopi.

Gan ffurfio rhan o astudiaeth fwy am fanteision posibl math arbennig o ymdopi (Ymdopi Ailwerthuso Cadarnhaol), gwahoddodd yr ymchwil hwn y grŵp penodol hwn o ofalwyr i feddwl am eu lles eu hunain, eu hemosiynau, a’u canfyddiadau o fod yn ofalwr.

Dywedodd Dr Deborah Lancastle, prif awdur y papur: “Mewn corff blaenorol o waith, datblygais ymyriad ymdopi ar gyfer menywod anffrwythlon, i’w helpu i ganolbwyntio ar agweddau cadarnhaol sefyllfa anodd iawn. Er enghraifft, byddai rhai yn dweud, er eu bod wedi cael amser trawmatig, ei fod wedi dod â nhw’n agosach at eu partner.”

Mae’r ymyriad yn cynnwys taflen gyda deg datganiad, i’w darllen ychydig o weithiau’r dydd, sy’n ysgogi’r darllenydd i ganolbwyntio ar unrhyw agweddau cadarnhaol ar sefyllfa anodd.

“Nid yw hyn yn golygu smalio fod popeth yn wych pan nad ydyw - ond gall talu mwy o sylw i'r pethau cadarnhaol yn hytrach na'r negyddol ddod â rhyddhad. Roedd astudiaethau'r Athro Susan Folkman wedi dangos bod y math hwn o ymdopi yn gysylltiedig â gwell lles seicolegol ymhlith partneriaid rhai sy’n rhoi gofal i ddynion ag AIDS, cyn ac ar ôl profedigaeth,” meddai Deborah.

Roedd Deborah yn awyddus i ddarganfod a oedd y math hwn o ymdopi yn effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau gofal. Meddai: “Gall yr agweddau cadarnhaol ar roi gofal gael eu hanwybyddu. Er bod cymorth cymdeithasol ac ymarferol yn hollbwysig, nid ydynt bob amser ar gael. Mae’n amlwg o’n canfyddiadau bod gofalwyr yn brwydro’n galed iawn am adnoddau y mae’r rhai yn eu gofal yn eu haeddu a’u hangen, ond nid yw’r adnoddau bob amser ar gael.

“O dan yr amgylchiadau hynny, megis yn ystod y pandemig lle nad yw’r adnoddau allanol ar gael, nid oes gan ofalwyr unrhyw ddewis ond dibynnu ar eu hadnoddau mewnol. Mae ein hymchwil yn awgrymu y gall gofalwyr helpu eu hunain, drwy chwilio am rai pethau cadarnhaol a chanolbwyntio ar y rheini.

“Nid bwriad yr ymchwil hwn yw tanseilio’r ffaith y gall gofalwyr deimlo’n flinedig a heb eu gwerthfawrogi. Nid ydym o bell ffordd yn gofyn i bobl fod yn falch o bethau sy'n anodd - mae teimlo'n flinedig a dan straen yn normal pan fo gofynion bywyd yn fawr. Fodd bynnag, mae'n ofidus teimlo felly. Gellir lleihau’r gofid trwy dreulio amser yn meddwl am yr amseroedd gwell.”

Roedd rhai o'r pethau cadarnhaol a adroddwyd gan ofalwyr yn cynnwys, teimlo'n dda am gynnydd datblygiadol eu hanwyliaid, y pleser o wybod eu bod wedi helpu eu hanwyliaid yn bersonol mewn ffyrdd pwysig, a mwynhau eu hanwylyd 'fel person' waeth beth fo anghenion a chyflwr eu hanwyliaid.

Dywedodd Deborah: “Cynlluniwyd yr astudiaeth hon i lywio datblygiad ymyriad ar gyfer gofalwyr y rhai sydd ag ASD. Ar hyn o bryd, rydym yn gwneud gwaith pellach yn seiliedig ar ein canfyddiadau, i ddatblygu ymyriad priodol ar gyfer y grŵp hwn o ofalwyr, ac i gasglu adborth ar ei effeithiolrwydd unwaith y bydd yn cael ei ddefnyddio.”

Mae gwahanol gyd-destunau gofalu yn amrywio mewn sawl ffordd, er enghraifft, oedran y person sydd angen gofal, ei ragolygon, y berthynas â'r gofalwr, ac ati. Mae Deborah a’i chydweithwyr hefyd yn gwerthuso defnydd a chymwynasgarwch ailarfarniad cadarnhaol wrth ymdopi â gofalwyr y rhai sydd ag anhwylderau bwyta, Dementia, Syndrom Down, a Chlefyd Huntington.

Mae gan Joanna Hill, cyd-awdur y papur, ddau fab a gafodd ddiagnosis o ASD yn blant. Wrth siarad am ei phrofiad fel gofalwr, dywedodd:

“Mae’r pwnc yn agos at fy nghalon. Fe wnes i nodi gyda’r ymchwil o’m harsylwadau personol fy hun bod y rhai sy’n rhoi gofal i bobl ag ASD yn aml yn teimlo’n ynysig, yn unig, heb unrhyw gefnogaeth na chydnabyddiaeth am y gofal y maent yn ei roi. Roeddwn i eisiau helpu pobl a oedd yn teimlo fel hyn, hyd yn oed os mai dim ond mewn rhyw ffordd fach yr oedd hynny.

“Mae fy ngŵr a minnau wedi brwydro ac wedi dioddef llawer o frwydrau ac ymdrechion gydag asiantaethau amrywiol, megis ysgolion, Gwasanaethau Plant ac Iechyd Meddwl, a’r cyngor lleol am y gefnogaeth briodol i’n meibion. Mae'n ffordd hir, anodd a heriol pan ddylai fod yn haws. Dylai gweithwyr proffesiynol fod yn dosturiol ac yn barod i helpu yn hytrach na barnu, beio, ac yn ddi-gymorth i rieni sydd am i'w plant fod yn hapus, yn iach ac yn llwyddiannus.

“Cefais ddiagnosis o ASD hefyd yn 2019, a oedd yn esbonio llawer amdanaf fy hun a’m hymddygiadau fy hun a’m hangen am drefn a strwythur. Rwy’n teimlo y byddai fy niagnosis wedi bod yn fwy buddiol i mi fel plentyn, ond rwyf wedi dysgu cuddio fy nodweddion a’m teimladau yn dda.

“Rwyf wedi defnyddio’r ymyriad i’w gyflwyno i fy mywyd fy hun a bywydau fy nheulu. Rwy’n annog fy ngŵr a’m meibion i geisio edrych ar bob sefyllfa o agwedd fwy cadarnhaol, neu i geisio gweld yr ochr fwy ffafriol. Mae ail-fframio sefyllfaoedd negyddol fel hyn yn agweddau mwy cadarnhaol wedi bod o fudd mawr i ni fel teulu ac fel unigolion, ac mae wedi arwain at aelwyd hapusach ac agwedd fwy cadarnhaol yn gyffredinol.

“Mae fy siwrnai bersonol o fod yn fam wedi bod yn anodd ond mor werth chweil. Rwy'n teimlo bendith i gael y plant sydd gennym. Rwy'n uniaethu'n gryf gyda fy meibion a'r brwydrau y maent yn eu hwynebu bob dydd. Rwy’n gwybod sut deimlad yw cael eich camddeall, eich anwybyddu, a’ch llethu gan ddigwyddiadau arferol bob dydd. Mae fy rôl gofalu wedi fy ngwneud yn berson cryfach, yn rhywun a fydd yn eiriol dros fy meibion ni waeth sut mae'n gwneud i mi deimlo, ac yn fwy penderfynol i'w helpu i ddod yn bobl gref, gwydn ac annibynnol wrth iddynt dyfu'n hŷn. Mae fy nheulu wedi fy ngwneud i’r person ydw i heddiw, ac rydw i mor ddiolchgar iddyn nhw.”